Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth ar y gwahanol bartneriaethau â themâu lle bydd y cynlluniau ar gyfer ein cymunedau'n cael eu datblygu. Rydym yn gobeithio gwneud yn siŵr y gall trigolion, y cyhoedd, busnesau, gwasanaethau a sefydliadau gwirfoddol sydd â diddordeb yng Nghonwy fod yn rhan o ddatblygiadau cymunedol, rhannu syniadau, a lleisio'u barn o ran llunio a chyflwyno cynlluniau cymunedol ar gyfer Conwy.
Pwy ydym "Ni"? - Manteision Gweithio mewn Partneriaeth.
Nid yw datblygu Cynlluniau Cymunedol yn gyfrifoldeb ar un sefydliad penodol. Maent yn cael eu datblygu gan groestoriad o grwpiau preswyl, sefydliadol, gwirfoddol a busnes. Mae'r gwahanol grwpiau hyn yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu Conwy well, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gweithio er lles ein cymunedau a diwallu eu hanghenion. I gael rhagor o wybodaeth, a manylion y sefydliadau sy'n aelodau, cyfeiriwch at y dolennau cyswllt â meysydd partneriaeth Conwy.
Pam mae angen Strategaeth Gymunedol?
Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol lunio Strategaeth Gymunedol. Mae disgwyl iddynt weithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth o asiantaethau a chymunedau i hyrwyddo lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol eu hardal. Mae gan awdurdodau lleol Bŵer Lles rŵan hefyd - mae'r pŵer hwn yn ein galluogi i weithio mewn ffyrdd newydd gyda asiantaethau partneriaeth.
Trwy ddefnyddio'r dull partneriaeth hwn, gobeithiwn y bydd y cynlluniau â'r gweithredoedd a ddaw ohonynt o fudd i bawb yng Nghonwy